Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

4 Rhagfyr 2017

SL(5)154 - Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017

Gweithdrefn: Gadarnhaol

Mae Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”) yn cyflwyno system newydd o reoleiddio gwasanaethau gofal a chymorth yng Nghymru, gan ddisodli’r un a sefydlwyd o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 (“y Ddeddf Safonau Gofal”).

Mae’r Ddeddf yn cyflwyno cysyniad newydd o “gwasanaethau rheoleiddiedig” sydd wedi ei ddiffinio yn adran 2 o’r Ddeddf.

Yn unol â’r pwerau yn adran 27 o’r Ddeddf, mae’r Rheoliadau hyn yn gosod gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau mewn perthynas â gwasanaeth rheoleiddiedig, gan gynnwys gofynion o ran safon y gofal a’r cymorth sydd i gael eu darparu.

Yn unol â’r pwerau yn adran 28 o’r Ddeddf, mae’r Rheoliadau hyn yn gosod gofynion ar unigolion cyfrifol mewn perthynas â man y mae’r unigolyn wedi ei ddynodi mewn cysylltiad ag ef.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn darparu ar gyfer troseddau os bydd darparwr gwasanaeth neu unigolyn cyfrifol yn methu â chydymffurfio â gofynion penodedig.

Mae canllawiau wedi eu cyhoeddi ynghylch sut y caiff darparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol gydymffurfio â’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn (gan gynnwys sut y caiff darparwyr gyrraedd unrhyw safonau ar gyfer darparu gwasanaeth rheoleiddiedig) ac mae adran 29 o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol roi sylw i’r canllawiau hyn.

Deddf Wreiddiol: Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

Fe’i gwnaed ar: heb ei nodi

Fe’i  gosodwyd ar: 27 Tachwedd 2017

Yn dod i rym ar: 2 Ebrill 2018